Y Rhyfel Brwnt

Y Rhyfel Brwnt
Enghraifft o'r canlynolTerfysgaeth wladwriaethol Edit this on Wikidata
Rhan oy Rhyfel Oer Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1955 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1989 Edit this on Wikidata
Lleoliadyr Ariannin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymgyrch o derfysgaeth wladwriaethol gan y jwnta filwrol a reolodd yr Ariannin o 1976 hyd 1983 oedd y Rhyfel Brwnt (Sbaeneg: Guerra Sucia). Targedodd luoedd milwrol a diogelwch y jwnta grwpiau gerila adain chwith, a thorrwyd hawliau dynol gan gynnwys artaith a llofruddiaethau torfol gan sgwadiau marwolaeth y jwnta. Amcangyfrifir i 10,000–30,000 o Archentwyr gael eu lladd gan y llywodraeth, a nifer ohonynt wedi "diflannu".[1] Roedd y Rhyfel Brwnt yn rhan o Ymgyrch Condor, sef rhaglen gan unbenaethau De America i ormesu gwrthwynebwyr a gwrthryfelwyr yr adain chwith yn ystod y Rhyfel Oer.

  1. (Saesneg) Dirty War. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Rhagfyr 2013.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search